Maethu Caerffili
A allwch chi roi dyfodol mwy disglair i blentyn?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am bobl â chalon gynnes sydd â’r gwytnwch, yr ymrwymiad a chartref croesawgar i gefnogi ein Plant Maeth i lwyddo a dangos iddynt fod gobaith am eu dyfodol.
Mae Cyngor Caerffili yn falch o fod yn rhiant corfforaethol i bob un o blant a phobl ifanc maeth Caerffili.
Ar hyn o bryd mae Caerffili yn gofalu am 450 o blant sy’n dod o wahanol gefndiroedd ac sydd ag ystod o wahanol anghenion. Yng Nghyngor Caerffili, rydym yn ymdrechu i gadw ein plant yn agos at eu teuluoedd ac yn eu cymunedau lle bynnag y gallwn.
Mae Teulu Maethu Caerffili yn eich croesawu’n gynnes i gychwyn ar y siwrnai hon gyda ni.