Mae cyfle gan ein gofalyddion maeth i fynd ar amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi. Mae’r cyrsiau yn anffurfiol iawn ac yn digwydd mewn grwpiau bach. Maen nhw’n galluogi gofalyddion maeth i ddysgu am arferion da, trafod unrhyw broblemau a meithrin sgiliau a hyder. Mae hefyd yn gyfle i gwrdd â gofalyddion a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae’r cyrsiau hyn AM DDIM.
Sgiliau ar gyfer maethu
Fel rhan o’r broses asesu mae rhaid i bob gofalydd newydd posibl fynd ar y cwrs hyfforddi ‘Sgiliau ar gyfer Maethu’. Caiff y cwrs ei gynnal dros ddau ddydd Sadwrn (10am-4pm) a dau ddydd Mawrth (6pm-9pm).
Cyrsiau hyfforddi
Mae nifer o gyrsiau hyfforddi gorfodol y mae’n rhaid i bob gofalydd maeth fynd arno. Mae’n rhaid cwblhau pob un o’r cyrsiau canlynol yn ystod 18 mis cyntaf eich cymeradwyaeth ac mae’n rhaid eu diweddaru bob tair blynedd:
- Gofalu mwy diogel
- Deall datblygiad ac ymddygiad
- Gwrando a chyfathrebu
- Addysg: o’r cyfnod meithrin i annibyniaeth
- Cymorth cyntaf ar gyfer plant
- Iechyd a lles plant sy’n derbyn gofal
- Diogelu plant sy’n derbyn gofal sydd angen eu diogelu
- Gwella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal
Hyfforddiant Gofalwyr Maeth
Mae ein tudalen Datblygu’r Gweithlu yn rhoi rhestr o’r holl gyrsiau hyfforddi sydd ar gael i ofalyddion maeth. Gallwch chwilio am gwrs drwy ddewis ‘gofal maeth’ o’r ddewislen gyntaf. Mae gwybodaeth am bob cwrs i’w gweld drwy glicio ar ‘gweld’ sydd wrth ymyl enw’r cwrs.
Sut i archebu
Os hoffech fynd ar un o’r cyrsiau hyfforddi a restrir, cysylltwch â’ch Gweithiwr Cyswllt a fydd yn archebu lle i chi. Efallai gallwch fynd ar gwrs sy’n benodol i Flaenau Gwent os oes un ar gael – trafodwch hyn gyda’ch Gweithiwr Cyswllt.
Canslo ac absenoldeb o’r cyrsiau hyfforddi
Rydym yn gwerthfawrogi y gall eich rôl fel gofalyddion maeth olygu weithiau y bydd digwyddiadau annisgwyl yn eich atal rhag mynd ar gwrs hyfforddi. Y llynedd, costiodd nifer o’r achosion o ganslo ac absenoldeb o’r cyrsiau filoedd o bunnoedd i’r cyngor.
Mae llefydd ar y cyrsiau hyfforddi yn gyfyngedig ac yn aml mae rhestr wrth gefn. Os na allwch fynd i un o’r cyrsiau, dylech gysylltu â’r tîm hyfforddi, gan roi cymaint o rybudd ag sy’n bosibl fel y gellir cynnig y lle i rywun arall.
Cyfleoedd hyfforddi eraill
Yn ogystal â mynd ar gyrsiau, mae nifer o gyrsiau ar gael i chi ddatblygu’ch sgiliau.
Yn y tîm maethu, mae amrywiaeth helaeth o lyfrau, gemau a DVDs gennym ar gael i chi fenthyg. Hefyd, mae gennym gynllun mentora lle bydd gofalydd profiadol yn cael ei glustnodi i chi unwaith rydych wedi derbyn cymeradwyaeth a byddant wrth law i gynnig cyngor gwerthfawr i chi ac i roi arweiniad i chi ar fod yn ofalydd maeth. O bryd i’w gilydd byddwn yn eich cyfeirio at wefannau defnyddiol a allai fod yn berthnasol i chi hefyd.